P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan South Wales Chamber of Commerce, ar ôl casglu 1,482 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

​​​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’i chynlluniau i adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ar hyd y Llwybr Du arfaethedig, ac yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl ar gynlluniau’r M4 yn ddiweddarach eleni, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi’r prosiect.

Mae angen di-os am draffordd newydd o amgylch Casnewydd, gyda’r tagfeydd o gwmpas Twneli Brynglas yn cael effaith negyddol ar fusnesau ac ar bobl o bob rhan o dde Cymru. Cyhoeddwyd y bwriad cyntaf i gael ffordd liniaru ym 1991, sef bron i 30 mlynedd yn ôl. Er nad yw’r methiant i weithredu am dros dri degawd yn unig ar fai, credwn nad yw hyn wedi bod o gymorth i les economaidd y genhedlaeth bresennol, ac mae wedi cyfrannu at:

·         Fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dros 3 y cant yn is ar gyfartaledd na chyfradd gyflogaeth y DU ers canol y 1990au.

·         Fod y Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen yn gyson yn is na 75 y cant o gyfartaledd yn y DU ers diwedd y 1990au, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Caerdydd y pen yw’r isaf o blith pedair prifddinas y DU.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Canfu dadansoddiad Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2016 y byddai ffordd M4 newydd yn ardal Casnewydd yn gwella cysylltedd yn Ne Cymru ac â gweddill y DU, a fydd yn:

 

·         Lleihau amseroedd teithio, gan ddod â manteision penodol i gwmnïau logisteg a ‘gweithrediadau ond mewn pryd’, sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a chostau cysylltiedig.

 

·         Arbed costau cludiant yr amcangyfrifir eu bod yn £34 miliwn y flwyddyn i fusnesau de Cymru.

 

 

·         Cynyddu mynediad at gyflogaeth i drigolion ac yn ehangu maint y gweithlu hygyrch i fusnesau.

 

·         Cynyddu Gwerth Ychwanegol Crynswth de Cymru o £39 miliwn y flwyddyn drwy’r cynnydd o ran cynhyrchiant.

 

·         Creu mynediad at safleoedd cyflogaeth newydd yn ardal Casnewydd, gyda photensial ar gyfer 15,000 o swyddi, a gwella mynediad at safleoedd sy’n gyfagos i’r M4 presennol, a gaiff ei rwystro yn sgîl tagfeydd traffig rheolaidd.

 

·         Gwella’r canfyddiad o Gymru ar gyfer ymwelwyr, ac fel lleoliad ar gyfer buddsoddi.

 

Newidiwch y sefyllfa fel y bu ers 30 mlynedd, a chefnogwch gynigion y llywodraeth o ran y Llwybr Du ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4, fel y gallwn wella llesiant economaidd cenedlaethau’r dyfodol ar draws De Cymru.

 

Tystiolaeth

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43059755
https://statscymru.llyw.cymru/v/C8Ns
https://statscymru.llyw.cymru/v/C8Nt
https://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/bulletins/regionalgrossvalueaddedbalanceduk/1998to2016#wales-was-the-fastest-growing-country-in-the-uk-in-2016
https://beta.llyw.cymru/coridor-yr-m4-o-amgylch-casnewydd-adroddiad-diwygiedig-yr-asesiad-or-effaith-economaidd-ehangach

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru